  Castell Coch, 22in x 30in watercolour
  Mountain Sheep - Watercolour
|
Mae’r arlunydd Norma Procter yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn Arlunio Cymru. Mae’n byw a gweithio ger Caerdydd, yn y pentref cadwraeth Gwaelod y Garth, wrth droed mynydd y Garth. Bydd unrhyw un a wyliodd ffilm Hugh Grant “The Man who went up a Hill and came down a Mountain” yn adnabod y man. Mae’n le delfrydol i Arlunio Cymru.
|
Mae cymysgedd cryf o dirlun Cymreig a diwydiant o fewn tafliad carreg o’r bwthyn lle mae Norma yn arlunio. Yn y gaeaf gellir gweld Castell Coch, a adeiladwyd i’r Ardalyddes Bute, ac sydd bron rhy rhamantus i'w arlunio, o’i gardd . Mae’r coed, sy’n trechu natur i dyfui ar ochrau’r Garth Fechan a ddinistriwyd gan waith chwarel, y bryniau o amgylch, yr afon Taf, - a’r defaid sy’n dod lawr o’r mynyddoedd i chwilio am fwyd yn y gerddi – i gyd yn ddarpar destunau i Arlunio Cymru.
|
Wrth ddylanwad palet yr arlynudd dyfrlliw, Arthur Miles, RI, a oedd hefyd yn byw a gweithio yng Ngwaeloed y Garth, mae Norma Procter yn hoff o ddefnyddio lliwiau tawel daearol yn ei chelf. Mae hefyd yn edmygu'r modd mae gwaith y diweddar Kyffin Williams yn darganfod prydferthwch noeth, bron heb liw, yn nhirlun creigiog Cymru, a fe hoffai Norma ddatblygu'r paled yma. |
  Garth Mountain in Autumn, oil on board, 35in x 23in with frame
|
Mae'r llun yma, sydd mewn olew, yn dangos Mynydd y Garth yn yr Hydref. Mae'n mesur ........ Mae chwedloniaeth yn son am y Brenin Arthur yn cynnal cyngor yma. Dywed llen werin sy'n sail i'r ffilm "The Man Who Went Up a Hill and Came Down a Mountain", fod y bryn rhywfaint yn rhy isel i'w alw'n fynydd ...... felly daeth y bobl leol ynghyd i dynnu cerrig i fyny i'r copa er mwyn ymestyn yr uchelder.
|
  Primary Crusher, Taffs Well Quarry, watercolour, 20in x 16in with frame
|
Llun dyfrlliw yw hwn o'r hen beiriant malu yn chwarel Ffynnon Taf. Ar un tro roedd hwn yn amlwg ar y Garth Fechan; mae nawr wedi'i amnewid. Mae hanes cloddio dolomit yn y chwarel hon yn ymestyn nol i amserau Rhufeinig. Beth sy'n perthnasol nawr yw'r chwarel gweithiol a'r coedwigoedd o'i hamgylch. Dengys y llun olew yma yr hen heol ar y Garth Fechan, sydd nawr wedi'i chloddio allan fel wy brecwast gan y ffrwydro dyddiol. Mae'r coed yn yr hen allt yma yn cuddio creithiau gwaethaf y chwarel.
|
  Lesser Garth Old Roman Road - Watercolour
|
Mae'r coed ffawydd hynafol sy'n tyfu ar y Garth Fechan yn rhan o Safle Diddordeb Gwyddonol Arbennig. Yma, mae'r gorwel isel yn dangos yr hen heol a'r modd mae'r coed yn cyfoethogi'r llechwedd hwn, ac yn cuddio difrodeg y chwarel yng Ngheunant Taf, Porth y Cymoedd.
|
  Bluebell Woods, watercolour, 20in x 17in inc. frame
|
Mae clychau'r gog yn ffynnu ar y Wenallt yng Ngogledd Caerdydd. Mae golau'n gwyro drwy'r coed ac yn rhoi golau sydd bron yn swreal i'r carpedi glas.
|
  Llandaf Cathedral, watercolour, 20in x 17in inc. frame
|
Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn enwog am y cerflun Epstein yng nghorff yr eglwys, - ac am y ffaith ei bod wedi ei hadeiladu mewn pant. Tu ol i'r Eglwys mae tirlun Cymru yn disgleirio yn y pellter. Mae'r llun hwn yn dangos yr Eglwys Gadeiriol wrth edrych ar draws Caeau Llandaf. |
|
  Pontypridd market, Oil and Acrylic on canvas, 24in x 30in
  Pontypridd market, Oil and Acrylic on canvas, 24in x 30in
|
Mae Marchnad Pontypridd yn adnabyddus i bawb. Mae'n llawn prysurdeb bob ddydd Mercher a dydd Sadwrn.
|
  Tango, acrylic and oil on canvas, 20in x 16in
  Tango, acrylic and oil on canvas, 20in x 16in
  Tango, acrylic and oil on canvas, 20in x 16in
|
Yn ogystal ag arlunio tirlun Cymru, mae Norma Procter yn arlumio bywyd llonydd, blodau o'i gardd - a tango!! Mae llawer o'i ffrindiau'n ddawnswyr tango brwdfrydig a ceir dosbarth llewyrchus yn y pentref cyfagos, Treforgan . A ie, Tango!! Felly, arlunio tango yw Arlunio Cymru!
|
  Daffodils, oil on canvas 20in x16in
  Marigolds, oil on board 24in x19in
  Irises, watercolour 22in x 15in
  White Flowers, oil on board 24in x 19in
|
Portreadau: Mae diddordeb mewn arlunio portreadau yn gyfochrog a gwaith tirluniau Arlunio Cymru. Gan weithio'n benodol o ffotograffiau mae Norma Procter yn arlunio portreadau mewn olew, acrylig neu dyfrlliw, ac fel arfer i gomisiynau.
|
  Beryl Rubens, 20in x 16in acrylic on canvas
  Colin, 20in x 16in sepia acrylic on canvas
  Catrin Finch, 20in x 16in acrylic on canvas
  Harold Rubens, 20in x 16in acrylic on canvas
  Bernice Rubens, 20in x 16in acrylic on canvas
  Jo, 10in x8in acrylic on canvas
|
Prices on application (starting at around £100 -dependent on size of painting). Commissions taken by arrangement.
Pictures on the site are examples of my work, some of which are for sale.
Norma Procter can be contacted on 02920813346 or e-mail artsale@paintingwales.co.uk |